Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff deddfu sy’n gyfrifol am addysg uwch yng Nghymru, er bod cyllid y Cyngor Gwyddoniaeth a Sgiliau yn parhau i fod yn fater ‘a gedwir’ i Lywodraeth y DU. Mae’r Cynulliad ym Mae Caerdydd ac fe’i sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ar ôl refferendwm. Rhoddwyd pwerau deddfu pellach i’r Cynulliad dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2005.
Cynhelir busnes y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfarfodydd llawn (sesiynau agored y gall pob Aelod Cynulliad gymryd rhan ynddynt) ac mewn cyfarfodydd pwyllgor. Dyma’r prif bwyllgorau sy’n gysylltiedig â’r sector addysg uwch yng Nghymru:
Ar hyn o bryd, gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau y DU y mae’r swyddogaethau sy’n gysylltiedig â pholisi gwyddoniaeth y DU, Cynghorau Ymchwil y DU a’r Bwrdd Strategaeth Technoleg.