Mae Addysg Uwch Cymru’n datblygu polisi ar ran ei aelodau. Ystyrir barn ystod eang o randdeiliaid allweddol hefyd.
Mae AUC yn darparu cynrychiolaeth gref ac effeithiol drwy gyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriadau allweddol, datblygu cynigion, paratoi adroddiadau a dadansoddiad ymchwil, a chyfleu safbwyntiau’r prifysgolion i lywodraeth, busnes ac arweinwyr cymunedol.
LlCC: Er Mwyn Ein Dyfodol – Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
Mae Sefydliadau Addysg Uwch Cymru’n croesawu strategaeth a chynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg uwch. Cyhoeddwyd Er Mwyn Ein Dyfodol – Strategaeth a Chynllun Addysg Uwch ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain ym mis Tachwedd 2009.
Ym mis Mehefin 2010, cynhyrchodd CCAUC gynllun gweithredu dilynol sy’n datblygu Er Mwyn Ein Dyfodol yn ei Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2010/11 i 2012/13.