Croeso i’n gwefan
Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau defnyddio, a bod yn rhwym wrthynt, sydd ynghyd â’n datganiad preifatrwydd yn llywodraethu perthynas Universities UK â chi mewn perthynas â’r wefan hon.
1. Cyflwyniad
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae Addysg Uwch Cymru (AUC) o dan Universities UK (UUK) wedi ymrwymo i ddiogelu’r wybodaeth bersonol a ddarparwch i ni ac i warchod eich preifatrwydd. Diben y datganiad preifatrwydd hwn yw eich cynorthwyo i ddeall sut mae UUK yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gesglir drwy’r wefan hon. Drwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol i’r wefan hon, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi darllen a deall datganiad preifatrwydd UUK ac y cawn ddefnyddio ein gwybodaeth bersonol a ddisgrifir ynddo. Mae UUK yn cadw’r hawl i addasu neu ddiweddaru’r datganiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw. Bydd unrhyw addasiadau’n berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir gan UUK, gan gynnwys gwybodaeth a gasglwyd yn flaenorol.
2. Yr wybodaeth a gasglwn
Nid oes yn rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol er mwyn pori’r wefan hon. Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fyddwch yn tanysgrifio i wasanaethau ar ein gwefan sy’n gofyn ichi gofnodi eich manylion personol er mwyn creu enw defnyddiwr a chyfrinair. Defnyddir eich gwybodaeth bersonol i’n galluogi i wirio eich bod wedi tanysgrifio ac i gyflenwi’r gwasanaethau ar-lein i chi. Yn ogystal â’ch gwybodaeth bersonol, pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, cawn gasglu gwybodaeth olrhain fel eich math o borwr, y math o system weithredu a ddefnyddiwch, enw eich darparwr gwasanaeth Rhyngrwyd a thudalennau yr ymwelwyd â hwy ar y safle.
Mae UUK yn cael yr wybodaeth hon drwy ddefnyddio technolegau, gan gynnwys cwcis, i wneud ein gwefan yn fwy ymarferol ac yn haws ei defnyddio, ac i deilwra ein gwefan yn well i’ch anghenion. Er enghraifft, efallai yr hoffem wybod faint o amser mae’r ymwelydd nodweddiadol yn ei dreulio ar ein gwefan neu pa dudalennau sy’n cael y sylw mwyaf. Dim ond ar ffurf gyfanredol y defnyddir gwybodaeth fel hyn ac nid yw’n eich enwi chi’n bersonol.
3. Sut defnyddir eich gwybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth am yr ymwelwyr â’n gwefan i ateb eich ymholiad yn fwy effeithlon drwy’r gwasanaethau a ddarparwn.
Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth ar ffurf gyfanredol (h.y. ni ellir adnabod eich manylion unigol) i archwilio sut defnyddir y safle.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwch i ni yn cael ei chadw fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy personol i chi. Dim ond ni fydd yn defnyddio’r data hwn i’ch adnabod chi.
Bydd gwybodaeth a rowch mewn cysylltiad â darparu cynnyrch neu wasanaeth neu gais am swydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.
4. Sut rydyn ni’n rhannu gwybodaeth â thrydydd parti
Nid yw Universities UK yn gwerthu nac yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i eraill.
5. Defnyddio cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, cawn gadw ychydig o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Bydd yr wybodaeth hon ar ffurf “Cwci” neu ffeil debyg a gall ein helpu mewn llawer ffordd. Er enghraifft, mae Cwcis yn eich caniatáu i deilwra gwefan i gyd-fynd yn well â’ch diddordebau a’ch hoffterau. Gyda’r rhan fwyaf o Borwyr Rhyngrwyd, gallwch ddileu Cwcis o yriant caled eich cyfrifiadur, rhwystro pob Cwci neu gael rhybudd cyn cadw Cwci. Cyfeiriwch at eich cyfarwyddiadau Porwr neu eich sgrin help i ddysgu mwy am y swyddogaethau hyn.
6. Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn ar unrhyw adeg inni beidio â chysylltu â chi, neu i newid eich hoff ddulliau cyswllt at ddibenion marchnata.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch (gallwn godi ffi fechan am hyn) ac i sicrhau bod unrhyw anghywirdeb yn eich gwybodaeth yn cael ei gywiro.
7. Diogelu eich data personol
Rydym wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth mor ddiogel ag sy’n bosibl. Rydym hefyd yn defnyddio dulliau ychwanegol i sicrhau gwybodaeth sensitif am eich gweithgareddau gyda ni. Mae’n rhaid i bob cyflogai sy’n gweithio i UUK ddilyn safon preifatrwydd a gweithdrefn cyfrinachedd gaeth.
8. Dolenni
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sydd y tu hwnt i reolaeth Universities UK. Dim ond i www.universitiesuk.ac.uk a www.hew.ac.uk mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol.
9. Tynnu eich caniatâd yn ôl
Ar unrhyw adeg, cewch dynnu eich caniatâd yn ôl i Addysg Uwch Cymru ac Universities UK ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion anfon gwybodaeth atoch am gynhyrchion neu wasanaethau drwy ysgrifennu at Chris Lambert, Resource Director, Universities UK, Woburn House, 20 Tavistock Square, London, WC1H 9HQ.