Sgôr boddhad myfyrwyr yn parhau yn uchel ym mhrifysgolion a cholegau Cymru
Manylion Cyswllt
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Swyddog Polisi a Chyfathrebu.
Testun:
Dyddiad rhyddhau:
17/08/2011
Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol wedi dangos fod lefel boddhad cyffredinol myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru wedi parhau i fod yn uchel, gydag 83% o’r rheini a ymatebodd yn nodi eu bod yn fodlon â’u cyrsiau.
‘Roedd canlyniadau arolwg 2011, bellach yn ei seithfed blwyddyn, yn rhoddi ystyriaeth i farn dros 21,000 o fyfyrwyr sy’n astudio ym mhrifysgolion a cholegau Cymru, a gwelwyd cynnydd sylweddol yn lefel boddhad myfyrwyr rhan-amser mewn sawl categori.
Mae boddhad ymhlith myfyrwyr llawn-amser wedi dangos rhywfaint o gynnydd mewn 12 o’r 21 cwestiwn yn 2011. Mae lefelau boddhad cyffredinol yng Nghymru ers y sefydlwyd yr ACF wedi parhau i fod yn uchel.
Y meysydd a welodd y cynnydd mwyaf mewn lefelau boddhad ers 2005 oedd asesu ac adborth a chymorth academaidd, er fod asesu ac adborth yn parhau i fod ychydig is na lefelau boddhad y DU. Dangosodd y ffigurau hefyd fod myfyrwyr rhan-amser yn llai bodlon â’u hadnoddau dysgu o gymharu â myfyrwyr llawn-amser.
Unwaith eto, ‘roedd myfyrwyr ar gyrsiau a noddir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn arbennig o fodlon, o gymharu â’r ffigur ar gyfer y DU yn gyffredinol, gydag 89% yn fodlon â’u lleoliad ymarfer, o gymharu ag 84% yn y DU gyfan.
Dywedod yr Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer 2011 yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn parhau i ddarparu cyrsiau sy’n sicrhau lefel uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr.
“Ers i’r arolwg ddechrau, mae wedi dangos fod myfyrwyr yn mynd yn fwyfwy bodlon â sawl agwedd o’u profiad, megis cymorth academaidd, trefn a rheolaeth eu cyrsiau. Mae hyn yn dystiolaeth o ba mor ddifrifol ‘rydym yn ymdrin â phrofiad myfyrwyr yng Nghymru
“Rydym yn falch o weld y cynnydd yn y lefel boddhad mewn asesu ac adborth, er fod yno rywfaint o ffordd i fynd. ‘Rydym yn croesawu’r cynnydd mewn boddhad ymhlith myfyrwyr rhan-amser, sy’n profi fod Cymru’n gallu ymateb i ofynion amrywiaeth o ddysgwyr. Byddwn yn edrych ar y canlyniadau gyda’r sector er mwyn parhau i wella profiad myfyrwyr yng Nghymru.”
Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru: “Mae’r canlyniadau cadarnhaol hyn yn dangos fod prifysgolion yn cynnal eu lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, a gwelwyd gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol. Mae’n bleser gen i nodi, parthed â’r rhan fwyaf o gwestiynau, fod boddhad myfyrwyr yn uwch nag yn arolwg llynedd. O edrych ar dueddiadau mwy hir-dymor, ‘rydym wedi gweld gwelliant cyson a sylweddol yng
nghanfyddiad myfyrwyr o ansawdd dysgu, cymorth academaidd, asesu, adborth, a rheolaeth cyrsiau yn ein prifysgolion.
“Mae’n hanfodol bwysig fod prifysgolion yn dysgu oddi wrth, ac yn adeiladu ar, y canlyniadau hyn er mwyn sicrhau fod y garfan nesaf o fyfyrwyr yn manteisio ar adborth a ddarparwyd gan eu cyfoedion eleni. Mae prifysgolion yng Nghymru yn ymgysylltu â’r Academi Addysg Uwch parthed â’u gwaith Cyfeiriadau at y Dyfodol ‘Myfyrwyr fel Partneriaid’ er mwyn darparu gwell
perfformiad drwy ymgysylltiad pellach â myfyrwyr.”
Dywedodd Luke Young, Llywydd UCM Cymru: “Mae disgwyliadau myfyrwyr o brifysgolion a cholegau yn uwch nag erioed. Rhaid i sefydliadau fod yn rhagweithiol a gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr er mwyn darparu profiad myfyrwyr sy’n ardderchog ym mhob agwedd. Dylai hyn gynnwys deialog agored ynglŷn â materion megis asesu ac adborth,
sydd eto i gyrraedd lefel dderbyniol. Wrth i fwy o fyfyrwyr ystyried astudio rhan-amser, mae’n hanofodl i sefydliadau gydnabod fod cyfleusterau a gwybodaeth yn aml wedi eu teilwra ar gyfer myfyrwyr llawn-amser ac nid ydynt yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr rhanamser. Mae angen mwy o hyblygrwydd, a hynny ar frys."
Bydd data’r ACF ar gael ar Unistats.com, sydd o gymorth i fyfyrwyr sy’n ymchwilio i fynediad i addysg uwch drwy eu galluogi i gymharu gwybodaeth ynglŷn â gwahanol bynciau a sefydliadau.
Cynhaliwyd yr arolwg eleni ymysg myfyrwyr addysg uwch yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a 14 o sefydliadau yn yr Alban.