Dywedodd llefarydd ar ran Addysg Uwch Cymru “Maen gan bron pob prifysgol yng Nghymru leoedd clirio, ac mae gan rai prifysgolion fwy o leoedd clirio na’r llynedd. Mae prifysgolion ar draws Cymru yn gwneud eu gorau glas i dderbyn cyn gymaint o fyfyrwyr cymwys â phosibl - ac yn recriwtio hyd at y terfyn sydd wedi cael ei osod ar nifer y lleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr.
Wrth reswm, bydd yr ymgeiswyr sydd wedi bodloni eu cynnig – a dyma’r mwyafrif - yn cael eu derbyn i’w cwrs, ond dylai’r rheini sydd wedi methu geisio cael lle beth bynnag drwy’r system glirio, a chysylltu â swyddogion derbyn i weld a oes modd derbyn cynnig is. Fel arall, dylai ymgeiswyr gysylltu â’u swyddfa gyrfaoedd lleol am gyngor.
Mae gwefannau defnyddiol yn cynnwys
www.yourfuturechoiceaction.org.uk a
www.ucas.ac.uk.